26 Ionawr 2026
Pwrpas ein gwaith yw ysbrydoli pobl o bob oed, gallu a chefndir i wella eu hiechyd corfforol a'u lles. Credwn fod gweithgareddau magu cryfder wedi'u hyfforddi'n dda o fudd i ddatblygiad naturiol plant ac yn bwysig i bob cenhedlaeth. (yn cysylltu'n dda â lluniau o rai iau a hŷn ar y dudalen gartref) Gall ein gweithgareddau hybu rhyngweithio cymdeithasol sy'n cyfoethogi bywydau pobl ac yn meithrin hyder.
Mae aelodau mewn academïau a chlybiau yn mwynhau’r budd a geir trwy Godi Pwysau, hyfforddiant magu cryfder a Chodi Pwysau Para. Rydym yn cefnogi ein canolfannau i ddenu mwy o bobl i gymryd rhan ar lefel leol i elwa o'n chwaraeon.
Mae codi pwysau a chodi pwysau para yn rhoi cyfleoedd i bob oed gymryd rhan mewn chwaraeon a chystadlu. Mae hyfforddiant codi pwysau yn weithgaredd sy’n gwella cyflwr y corff yn sylfaenol a hynny yn ei dro’n gwella perfformiad ym mhob camp.
Mae gennym raglenni i gefnogi ein hathletwyr ar y llwyfan rhyngwladol. Llwybr sy'n datblygu talent i ddod yn athletwyr lefel uwch, gan gystadlu'n llwyddiannus yng Nghymru, yn nigwyddiadau'r DU ac yn rhyngwladol.